Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2017
Amser: 08.30 -
09.09
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 15 Chwefror 2017 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru (30 munud)
Dydd Mercher 1 Mawrth 2017 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl:
Dydd Mercher 8 Chwefror
· NNDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Trafododd y Pwyllgor bapur ar grwpiau a chynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes. Roedd y papur yn nodi opsiynau posibl ar gyfer diwygio'r Rheolau Sefydlog er mwyn i Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp beidio â bod o dan anfantais am nad oes ganddynt gynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes.
Trafododd y Rheolwyr Busnes hefyd ymatebion gan Kirsty Williams, Nathan Gill a Dafydd Elis-Thomas i lythyr y Llywydd yn gofyn am eu barn ar y mater. Roedd y tri Aelod wedi nodi y byddent yn ffafrio cael eu cynrychioli drwy ddirprwy.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd.
Trafododd y Rheolwyr Busnes opsiynau i gyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddrafftio meini prawf posibl ar gyfer y weithdrefn newydd, ynghyd â gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer y Cwestiynau Brys. Nododd Arweinydd y Tŷ ei bod yn bwriadu dosbarthu nodyn a oedd yn amlinellu ei meini prawf arfaethedig ar gyfer pob gweithdrefn. Cytunwyd i ailystyried y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Datganiadau 90 Eiliad
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i annog Aelodau i gyflwyno mwy o amrywiaeth yng nghynnwys y Datganiadau 90 Eiliad. Nid oes unrhyw geisiadau wedi dod i law hyd yn hyn ar gyfer yr wythnos hon.
Cwestiynau'r Llefarwyr
· Bu i'r Llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes y dylai'r llefarwyr nodi ar y ffurflenni siaradwyr a anfonnir i'r grwpiau os ydynt am holi Gweinidog yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Llefarwyr, neu dylent hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr o'u bwriad cyn gynted â phosibl.
Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer dadleuon
· Bu i'r Llywydd atgoffa'r Llywodraeth mai mater o gwrteisi yw i Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion sy'n ymateb mewn dadleuon fod yn bresennol drwy gydol y ddadl.